Roedd yn bleser cydweithio gydag Y Lolfa i lansio a hyrwyddo hunangofiant Nigel Owens, ‘The Final Whistle’, a llyfr rygbi Luke Upton ‘Rugby’s Greatest Mavericks’.
The Final Whistle, Nigel Owens
Yn un o gymeriadau mwyaf hoffus y byd rygbi, cyrhaeddodd Nigel Owens yr uchelfannau yn y maes gan ddyfarnu Rownd Derfynol Cwpan y Byd 2015 ac ennill record byd o 100 o gapiau. Mae ei hunangofiant hir-ddisgwyliedig, The Final Whistle – a ddaw 14 mlynedd ar ôlcyhoeddi ei lyfr cyntaf, Hanner Amser, yn adrodd hanes ei yrfa, nawr ei fod wedi ymddeol o’iddyletswyddau ar y cae, a’i stori bersonol emosiynol. Mae Nigel yn siarad yn agored am ei arddegau poenus ac yn ailedrych ar ei ymgais i ladd eihun yn ei 20au, a sut y gwnaeth oresgyn ei anawsterau i ddod yn ffefryn yn y byd rygbi. Dyma stori ysbrydoledig am lwyddiant dros adfyd, gobaith dros anobaith.
Rugby’s Greatest Mavericks, Luke Upton
Mae Rugby’s Greatest Mavericks yn cynnwys straeon am 20 o’r ‘mavericks’ gorau ym mydrygbi dros y 80 mlynedd diwethaf. Yn cynnwys cyfweliadau chwaraewyr unigryw, mae’r llyfrbywiog hwn yn dod â rhai o eiliadau gwallgof, y cymeriadau lliwgar a straeon mwyafrhyfeddol rygbi yn fyw.