Rheolwr Cyfathrebu Tîm y Dynion
Fe wnes i gynllunio a gweithredu strategaeth gyfathrebu gytbwys drwy gydol yr ymgyrch, tra’n byw ar leoliad yng Ngwesty’r Vale. Roeddwn i’n brif bwynt cyswllt rhwng chwaraewyr a hyfforddwyr y garfan genedlaethol a’r cyfryngau. Yn ogystal ag ysgrifennu datganiadau i’r wasg yn ymwneud ag anafiadau, cerrig milltir a datganiadau i chwaraewyr roeddwn yn gyfrifol am drefnu a chynnal cynadleddau rhithiol i’r wasg yn ogystal â chyfweliadau ar leoliad ar gyfer y prif ddarlledwr, gan sicrhau ein bod yn cadw at y protocolau Covid llym a oedd ar waith ar y pryd.
Roedd dyletswyddau diwrnod gêm yn cynnwys cysylltu â darlledwyr a’r cyfryngau i drefnu cyfweliadau cyn, yn ystod, ac ar ôl y gêm yn ogystal â rheoli’r gynhadledd i’r wasg ar ôl y gêm ar gyfer URC a’r gwrthwynebwyr.